WQ87321 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

A oes gan y Llywdraeth unrhyw dystiolaeth neu ddata sydd yn medru mesur lefel swyddi gwag yn y sector gofal i oedolion yn ystod y pum mlynedd diwethaf?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 09/02/2023

Ni chasglwyd data ar gyfer 2019-20 o ganlyniad i’r galw am ystadegau a data i fesur effaith y pandemig COVID-19, felly dim ond cymariaethau cyfyngedig y gellir eu gwneud gyda’r blynyddoedd blaenorol. Cyn hyn, casglodd Llywodraeth Cymru ddata ar staff awdurdodau lleol drwy’r datganiad data staffio. Mae data ar gyfer 2004-05 i 2018-19 (ar 31 Mawrth bob blwyddyn) ar gael ar StatsCymru yn https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Health-and-Social-Care/Social-Services/Staffing. O 2014-15, adolygwyd y datganiad staffio i gyd-fynd â’r Fframwaith Cymwysterau diwygiedig a gyhoeddwyd gan Gyngor Gofal Cymru. 

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r gweithlu a rheoleiddwyr y gwasanaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru i ddod â’r holl geisiadau am ddata ynghyd i leihau’r baich ar y sector a chasglu data mwy rheolaidd.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn casglu data ar niferoedd gweithwyr yn y sector drwy arolwg blynyddol, sydd nawr yn cynnwys y nifer o swyddi gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n wag. Mae’r adroddiad ar gyfer 2021 ar gael yma: Adroddiad gweithlu gofal cymdeithasol.