WQ87320 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Ydy'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw asesiad o draweffaith codi cyflogau gweithlu'r GIG a'r gweithlu addysg ar refeniw y dreth incwm Gymreig ac unrhyw effaith cyllidol positif ehangach, er enghraiff ar ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 09/02/2023

Rydyn ni’n credu y dylai’r holl weithwyr yn y sector cyhoeddus gael eu gwobrwyo’n deg am y gwaith pwysig y maent yn ei wneud, ac y dylen nhw gael codiad cyflog cynaliadwy sydd wedi’i gostio’n briodol fel rhan o’r setliad cyllideb blynyddol. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai cyflogau uwch mewn unrhyw broffesiwn, boed hynny yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat, gael effaith bositif ar refeniw treth incwm a’r dirwedd ariannol ehangach. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod y byddai cynyddu cyflogau’r sector cyhoeddus yn arwain at gost net i gyllideb Cymru gan y byddai cost y codiadau cyflog yn fwy na’r swm ychwanegol a gynhyrchir gan gyfraddau treth incwm Cymru, sef 10 ceiniog ar gyfer pob band. Mae benthyciadau myfyrwyr a’u had-daliadau yn dod o dan Wariant a Reolir yn Flynyddol a chyllidebau heb fod yn arian parod, ac felly ni fyddant yn effeithio ar brif gyllidebau Llywodraeth Cymru.