WQ87319 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Ydy Llywodraeth Cymru yn casglu a chyhoeddi asesiad blynyddol o ddiogelwch adeiladau yn ein rhwydwaith cenedlaethol o ysgolion?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 08/02/2023

Fel rhan o'r Rhaglen Cymunedau  Dysgu Cynaliadwy mae Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn adolygu data cyflwr yn flynyddol.  Er bod y wybodaeth hon yn ymwneud â diogelwch cyffredinol mae'n ddyletswydd awdurdod lleol i asesu risgiau diogelwch ar gyfer pob adeilad o fewn ei stad ysgol.  Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol flaenoriaethu cyllid o gyllidebau blynyddol i sicrhau bod eu hysgolion yn ddiogel a pharhau i fodloni gofynion iechyd a diogelwch.