A wnaiff y Gweinidog restru'r ffigurau o ran swyddi gwag o fewn y GIG sydd gan grŵp iechyd a gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar gyfer pob grŵp staffio ar gyfartaledd ym mhob blwyddyn ers 2012?
Mae data gweinyddol GIG Cymru sy’n ymwneud â nifer yr hysbysebion swyddi sy’n cael eu cyhoeddi ar NHS Jobs yn cael ei rannu’n rheolaidd â Llywodraeth Cymru. Mae’r metrig hwn yn ffynhonnell ddata procsi ar gyfer swyddi gwag GIG Cymru a dylid ei drin yn ofalus. Mae’r cipolwg diweddaraf ar gyfer mis Hydref 2022 i’w weld yn y tabl ganlynol. Sylwch, mae’r data hwn yn cynnwys swyddi gwag a allai fod wedi’u hysbysebu fwy nag unwaith ac felly gall gynnwys elfen o gyfrif dwbl.
|
Grŵp staffio |
Cyfanswm nifer y swyddi gwag a hysbysebwyd (FTE) yn ystod mis Hydref 2022 |
|
Gweithwyr Proffesiynol Ychwanegol Gwyddonol a Thechnegol |
108 |
|
Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol |
798 |
|
Gweinyddol a Chlercol |
657 |
|
Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd |
334 |
|
Ystadau ac Ategol |
150 |
|
Gwyddonwyr Gofal Iechyd |
67 |
|
Meddygol a Deintyddol |
423 |
|
Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi’u cofrestru |
1518 |
Nid yw Llywodraeth Cymru yn dal gwir gyfraddau swyddi gwag GIG Cymru ar hyn o bryd, ond rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi’r data hwn erbyn mis Mehefin 2023.