WQ87312 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Sut mae, ac y bydd, Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau a gweithwyr yn y maes caffael i adnabod a deall unrhyw wahaniaethau yn y cyfundrefnau caffael ar waith yng Nghymru a Lloegr ar ôl i Fil Caffael y DU a’r Bil Partneriaeth Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ddod i rym?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 10/02/2023

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd â rhanddeiliaid ledled Cymru ynglŷn â'r ddau Fil. Mae'r cymorth a ddarparwyd i randdeiliaid hyd yma yn cynnwys dogfennau cyfarwyddyd, diweddariadau e-bost rheolaidd, sesiynau gweminar rhithwir a chyflwyniadau wyneb yn wyneb.

Bydd Llywodraeth Cymru'n datblygu canllawiau a hyfforddiant i gefnogi awdurdodau contractio, cyflenwyr a gweithwyr wrth iddynt ymateb i'r gofynion newydd, gan gynnwys sesiynau dwfn penodol a gynhelir wyneb yn wyneb ac yn ddwyieithog. Bydd y rhain yn cyd-fynd â chynnig dysgu a datblygu Llywodraeth y Deyrnas Unedig a byddant yn cynnwys deunydd ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Bydd hyfforddiant technegol ar ddefnyddio systemau caffael a ariennir gan Lywodraeth Cymru hefyd yn cael ei ddarparu hefyd, unwaith y bydd y newidiadau i'r systemau wedi’u cwblhau a'u profi.