I ba raddau mae Bil Caffael y DU a Bil Partneriaeth Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn mynd i gyflwyno cyfundrefnau caffael amgen yng Nghymru a Lloegr?
Er bod y rhain yn ddarnau ar wahân o ddeddfwriaeth, gyda’i gilydd byddant yn ffurfio cyfundrefn gaffael newydd i Gymru. Mae Bil Caffael y DU yn anelu i gyflwyno rheolau newydd am sut y mae’r broses gaffael yn cael ei chynnal, ac mae Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn ymwneud â sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru yn caffael yn gyson mewn modd cymdeithasol gyfrifol. Mewn geiriau eraill, mae’n anelu i hyrwyddo canlyniadau llesiant gwell yn sgil contractau cyhoeddus. Bydd y ddau Fil yn cynyddu tryloywder.
Bydd Bil Caffael y DU yn cynnwys awdurdodau contractio Cymreig, ond ni fydd Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn cynnwys awdurdodau y tu allan i Gymru.