Beth yw statws unrhyw geisiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i Lywodraeth San Steffan ar gyflwyno gwelliannau i Fil Caffael y DU (h.y. a dderbyniwyd/gwrthodwyd y ceisiadau)?
Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 10/02/2023
Mae statws presennol pob un o'r gwelliannau y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am eu cyflwyno wedi’i nodi isod:
- Gwelliant i’r diffiniad o awdurdod Cymreig datganoledig.
Derbyniwyd y gwelliant hwn ac fe'i cyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 2 Chwefror.
- Gwelliant mewn perthynas â'r pwerau cychwyn sydd yn y Bil.
Derbyniwyd y gwelliant hwn ac fe'i cyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 2 Chwefror.
- Gwelliant i'r pwerau i wneud darpariaethau canlyniadol i adlewyrchu pwerau i Weinidogion Cymru yn y maes.
Derbyniwyd y gwelliant hwn ac fe'i cyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 25 Ionawr.
- Gwelliant ar gyfer pŵer datgymhwyso i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n cyfateb i bŵer Llywodraeth y DU mewn perthynas â gwasanaethau gofal iechyd.
Penderfynodd Gweinidogion Cymru i beidio â mynd ar drywydd cynnwys pŵer datgymhwyso yn y Bil gan fod angen pwerau datgymhwyso a chreu i gyflawni’r newid. Yn hynny o beth, bydd Gweinidogion Cymru'n cyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd sy'n cynnwys y pwerau datgymhwyso a’r pwerau creu gyda’i gilydd.
- Gwelliant sy'n cael yr effaith o sicrhau na fydd dyletswydd awdurdod contractio Cymreig i roi sylw i Ddatganiad Polisi Caffael Cymru yn orfodadwy mewn achosion sifil.
Derbyniwyd y gwelliant hwn a chafodd ei gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 27 Mehefin.