WQ87308 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

A wnaiff Llywodraeth Cymru esbonio’r rhesymeg y tu ôl i bob gwelliant y gofynnodd i Lywodraeth y DU ei gyflwyno i Fil Caffael y DU?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 10/02/2023

Nodir isod y rhesymeg sy’n sail i bob un o'r gwelliannau:

  • Gwelliant i’r diffiniad o awdurdod Cymreig datganoledig.
    Roedd angen gwelliant i’r diffiniad o awdurdod Cymreig datganoledig fel ei bod yn glir y bydd rheolau Cymru yn gymwys i gaffaeliadau trawsffiniol, h.y. un caffaeliad sy'n ymwneud â Chymru a Lloegr ar gyfer awdurdodau contractio sy'n gweithredu neu’n arfer swyddogaethau yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn ymwneud â Chymru.
  • Gwelliant mewn perthynas â'r pwerau cychwyn sydd yn y Bil.
    Roedd angen gwelliant gan fod y pwerau cychwyn a oedd yn Bil fel y'i cyflwynwyd yn bwerau i Weinidog y Goron yn unig. Roedd hyn yn caniatáu i Weinidog y Goron gychwyn darpariaethau'r Bil heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.
  • Gwelliant i'r pwerau i wneud darpariaethau canlyniadol i adlewyrchu pwerau i Weinidogion Cymru yn y maes.

Roedd angen y gwelliant hwn gan fod y Bil fel y'i cyflwynwyd yn darparu ar gyfer pwerau cydredol i Weinidog y Goron wneud darpariaethau atodol, ddeilliadol neu ganlyniadol heb unrhyw ofyniad i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru wrth arfer y pŵer hwn mewn perthynas â meysydd datganoledig.

 

  • Gwelliant ar gyfer pŵer datgymhwyso i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n cyfateb i bŵer Llywodraeth y DU mewn perthynas â gwasanaethau gofal iechyd.
    Gofynnwyd am y gwelliant hwn i ddarparu chwarae teg i bawb yn ymwneud â’r drefn o ddewis darparwyr ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yn Lloegr o dan Ddeddf Iechyd a Gofal 2022.
  • Gwelliant sy'n cael yr effaith o sicrhau na fydd dyletswydd awdurdod contractio Cymreig i roi sylw i Ddatganiad Polisi Caffael Cymru yn orfodadwy mewn achosion sifil.
    Roedd angen y gwelliant hwn i sicrhau bod y Bil yn cyd-fynd â safbwynt polisi Llywodraeth Cymru y dylai dyletswydd awdurdod contractio Cymreig i roi sylw i Ddatganiad Polisi Caffael Cymru fod yn orfodadwy drwy adolygiad barnwrol.