WQ87307 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa welliannau mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU eu cyflwyno i Fil Caffael y DU?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 10/02/2023

Rydym wedi ymgysylltu'n helaeth â Llywodraeth y DU drwy gydol y gwaith o ddatblygu'r Bil Caffael. Mae swyddogion wedi dylanwadu'n helaeth ar gynnwys y bil drwy drafodaethau manwl i sicrhau bod prosesau a pholisi priodol yn cael eu hadlewyrchu yn y darpariaethau. Mae'r gwelliannau penodol yr ydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU eu cyflwyno yn cynnwys:

  • Gwelliant i’r diffiniad o awdurdod Cymreig datganoledig.
  • Gwelliant mewn perthynas â'r pwerau cychwyn sydd yn y Bil.
  • Gwelliant i'r pwerau i wneud darpariaethau canlyniadol i adlewyrchu pwerau i Weinidogion Cymru yn y maes.
  • Gwelliant ar gyfer pŵer datgymhwyso i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n cyfateb i bŵer Llywodraeth y DU mewn perthynas â gwasanaethau gofal iechyd.
  • Gwelliant sy'n cael yr effaith o sicrhau na fydd dyletswydd awdurdod contractio Cymreig i roi sylw i Ddatganiad Polisi Caffael Cymru yn orfodadwy mewn achosion sifil.