WQ87251 (w) Wedi’i gyflwyno ar 26/01/2023

Pa lefel o daliad un tro yn unig y mae'r Llywodraeth wedi cynnig i'r gweithlu dysgu yn y flwyddyn ariannol gyfredol?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 07/02/2023

Rwyf wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau a chyflogwyr i archwilio ffyrdd o ddatrys yr anghydfod presennol. Ni fyddai datgelu manylion penodol y trafodaethau parhaus hyn o gymorth nac yn briodol ar hyn o bryd.