Pa fwriad sydd gan y Llywodraeth i gefnogi datblygiad canolfannau triniaeth o fewn y GIG debyg i'r canolfannau triniaeth cenedlaethol a rhanbarthol a arfaethir yn yr Alban ac yn Lloegr?
Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 07/02/2023
Mae’n glir yn ein Cynllun Adfer Gofal a Gynlluniwyd ein bod wedi ymrwymo i ddatblygu canolfannau triniaeth neu ganolfannau rhagoriaeth rhanbarthol ledled Cymru.
Tra mae’r gwaith hwn yn parhau, mae byrddau iechyd yn ailddylunio’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu i sicrhau bod capasiti gwyrdd yn cael ei ddiogelu ar gyfer triniaeth a gynlluniwyd.