A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw'r Llywodraeth wedi anfon llythyr cylch gorchwyl at Gorff Adolygu Cyflog y GIG a'r corff taliadau ar gyfer meddygon a deintyddion o ran y flwyddyn 2023-24?
Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 07/02/2023
Gallaf gadarnhau fy mod wedi anfon llythyr cylch gwaith i gorff adolygu cyflogau’r GIG a'r corff adolygu tâl meddygon a deintyddion ar 19 Rhagfyr 2022. Yn ogystal, rwyf hefyd wedi anfon tystiolaeth i'r ddau gorff adolygu ar eu dyddiad cau sef 11 Ionawr 2023.
Mae copïau o’r dogfennau tystiolaeth i’w gweld yn: