A wnaiff y Gweinidog restru'r adegau yn ystod y 12 mis diwethaf y mae Fforwm Cymru Gydnerth wedi ei gynnull er mwyn trafod pwysau o fewn y GIG?
Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 09/02/2023
Mae Fforwm Cymru Gydnerth yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn.
Amharwyd ar yr amserlen cyfarfodydd yn ystod ein hymateb i Covid. Cyfarfu’r Fforwm ddiwethaf ym mis Tachwedd 2022 a thrafodwyd pwysau’r gaeaf, gan gynnwys pwysau o fewn y GIG yng Nghymru. Mae disgwyl i’r Fforwm gwrdd eto ym mis Mai 2023.