A wnaiff y Gweinidog restru yr adegau yn ystod y 12 mis diwethaf y mae'r Ganolfan Cydgysylltu Argyfyngau wedi'i ddefnyddio mewn ymateb i'r pwysau o fewn y GIG?
Gallaf gadarnhau nad yw’r Ganolfan Cydgysylltu Argyfyngau (ECCW) wedi cael ei rhoi ar waith yn ystod y 12 mis diwethaf i gefnogi'r ymateb i bwysau'r GIG.
ECCW fydd yn darparu cyswllt Llywodraeth Cymru i drefniadau wrth gefn Llywodraeth y DU, o dan arweiniad Swyddfa'r Cabinet, ar gyfer sefyllfa o Argyfwng Sifil Posibl yng Nghymru; os bydd angen inni roi’r system iechyd a/neu ofal ar waith ar gyfer argyfwng sifil (llifogydd, tân, digwyddiad mawr) ar wahȃn i’r pwysau cynlluniedig yr ydym yn gwybod y byddant yn codi.
Mae'r pwysau ar y GIG yn cael eu rheoli o fewn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol drwy gyfarfod Trefniadau Wrth Gefn wythnosol y Cyfarwyddwr Gweithredol fel rhan o’u dull o ymdrin â phwysau cynlluniedig.