WQ87054 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2023

A wnaiff y Comisiwn gadarnhau: a) a fydd taliad caledi'r gaeaf neu daliad costau byw yn cael ei dalu i staff y Comisiwn; b) os felly, a oes meini prawf bod unrhyw un sy'n uwch na chyflog penodol wedi'i eithrio o'r taliad; ac c) os felly, beth yw'r cyflog hwnnw?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 27/01/2023

Mae'r comisiynwyr wedi cymeradwyo cynnig y Bwrdd Gweithredol i daliad costau byw o £500 gael ei dalu i Staff y Comisiwn sydd ar y ddau fand cyflog isaf. Mae'r Comisiwn wedi defnyddio ffigwr cyflog cyfartalog SYG y DU o tua £32,000 fel canllaw sy'n eistedd ychydig yn uwch na'r ail radd isaf.

Meincnododd y Comisiwn yn erbyn nifer o sefydliadau tebyg eraill ac ymgynghori hefyd â'n hundebau llafur. Mae'r swm a gytunwyd yn cynrychioli cydbwysedd rhwng rhoi cymorth i'n staff sydd ar y graddau isaf a'n hangen am ddoethineb ariannol.