Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd ynglŷn â dyfodol Amgueddfa Caerdydd?
Amgueddfa Caerdydd yw un o brif amgueddfeydd lleol Cymru ac mae ganddi enw gwych am ei gwaith allanol, ei gwaith o ran cefnogi grwpiau cymunedol a rhannu storïau amrywiol ynglŷn â phobl ein prifddinas.
Mae Is-adran Diwylliant Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn sector datblygu ac asiantaeth gefnogi ar gyfer y sector amgueddfeydd lleol. At hynny, mae’n rheoli Cynllun Achredu Amgueddfeydd yng Nghymru. Mae swyddogion mewn trafodaethau â staff Amgueddfa Caerdydd ac maen nhw eisoes wedi rhoi ychydig o adborth ynghylch effeithiau posibl y cynigion a nodir yn ymgynghoriad cyllid Cyngor Caerdydd ar statws Achrededig yr amgueddfa. Bydd trafodaethau yn parhau yn y flwyddyn newydd er mwyn cael gwell dealltwriaeth ynghylch sut y bydd y cynigion yn effeithio ar yr amgueddfa a’i gweithgareddau.
Rydyn ni’n cydnabod pa mor bwysig yw ein rhwydwaith o amgueddfeydd lleol i gymunedau ledled Cymru - yn atyniadau i ymwelwyr ac yn asedau cymunedol. Maen nhw’n gallu helpu awdurdodau lleol i ddarparu yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y Cynllun Gweithredu LHDTC+ sydd ar droed, y cwricwlwm newydd a’r gwaith o adfer canol ein trefi yn ogystal â llesiant plant, teuluoedd, a phobl a chymunedau sy’n agored i niwed wedi’r pandemig.
Mae’n gadarnhaol felly fod y cynnig yn cydnabod nad cau’r sefydliad treftadaeth cymunedol hwn yn llwyr yw’r dewis cywir a bod uchelgais o hyd i sicrhau bod gan yr amgueddfa le parhaol yn y dyfodol. Gobeithiaf y gellir dod o hyd i ddatrysiad sy’n galluogi’r amgueddfa i gadw ei statws Achrededig, y gellir parhau i ofalu am y casgliadau a roddwyd gan bobl Caerdydd a bod eu storïau amrywiol ar gael i’r cyhoedd.