WQ86909 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2022

A fydd modd astudio fferylliaeth fel pwnc gradd ym Mangor yn y dyfodol agos o gofio sefydlu'r ysgol feddygol a'r academi ddeintyddol yn y ddinas?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 14/12/2022

Mae'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn achredu ac yn cydnabod cyrsiau fferylliaeth ym Mhrydain Fawr. 

Prifysgolion sy'n penderfynu a ydynt am ddarparu gradd mewn fferylliaeth ai peidio. Pan fydd prifysgol yn bwriadu darparu gradd Meistr mewn Fferylliaeth (MPharm), rhaid iddi ddilyn proses achredu’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol. Mae'r broses achredu yn cymryd saith mlynedd o leiaf i'w chwblhau, fodd bynnag, gall prifysgol gofrestru myfyrwyr ar gwrs gradd Meistr mewn Fferylliaeth o drydedd flwyddyn y broses achredu ymlaen.

Mae Prifysgol Bangor wedi dechrau darparu gradd mewn ffarmacoleg yn ddiweddar ac rydym yn deall efallai y bydd yn ystyried datblygu rhaglen radd mewn fferylliaeth maes o law.