WQ86908 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2022

A fydd modd astudio deintyddiaeth fel pwnc gradd ym Mangor yn y dyfodol agos o gofio fod yr academi deintyddol wedi agor yno?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 14/12/2022

Yng Nghymru, ym Mhrifysgol Caerdydd yn unig y mae'n bosibl cael gradd mewn Deintyddiaeth ar hyn o bryd. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gyfrifol am ddatblygu cynllun y gweithlu ar gyfer deintyddiaeth, a byddant yn parhau i asesu'r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael, gan gynnwys pwyso a mesur yr angen am Ysgol Ddeintyddol arall.

Mae Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru yn gweithio ar y cyd â rhwydwaith o bartneriaid ymroddedig; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Cyfadran Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol Cymru Gyfan a darparwyr deintyddol ar draws y Bwrdd Iechyd. Nod yr Academi yw darparu cyfleoedd gwaith, hyfforddiant a chyfle i wella eu sgiliau i bob gweithiwr proffesiynol ym maes gofal deintyddol, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys darparu cyfleusterau hyfforddi ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno bod yn hylenyddion deintyddol.