WQ86806 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/11/2022

Pa ganran o gynnydd ar gyfartaledd i gyflogau gweithlu'r GIG mae cynnig diweddaraf Llywodraeth Cymru yn cynrychioli?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 05/12/2022

Fel yr amlinellais yn fy Natganiad Ysgrifenedig pan dderbyniais argymhellion annibynnol y corff adolygu cyflogau, mae’r taliad o £1,400 i staff ar delerau ac amodau’r Agenda ar gyfer Newid yn cyfateb i ystod o ganrannau gwahanol o ran cynnydd i gyflogau GIG Cymru gan ddibynnu ar y band cyflog o dan sylw, gyda’r rhai sydd ar y band cyflog isaf yn cael cynnydd o 10.8%.

Bydd bron hanner gweithlu’r Agenda ar gyfer Newid, sy’n cael eu talu yn y bandiau cyflog isaf o 1 i 4, yn cael cynnydd cyflog cyfartalog o 7.5% yn y pwyntiau cyflog. Bydd mwy na 89,000 o’r rhai sydd ar gontractau’r Agenda ar gyfer Newid – y rhai hyd at a chan gynnwys Band 7 – yn cael cynnydd o 5.3% ar gyfartaledd yn y pwyntiau cyflog.

Cafodd meddygon a deintyddion gynnydd o 4.5% fel yr argymhellwyd gan eu corff adolygu cyflogau.

Mae hyn yn cyfateb i gynnydd cyfartalog o 4.8% i fil cyflogau cyffredinol y GIG. Nododd y gwaith modelu ar gyfer y dyfarniad cyflog i’r GIG mai oddeutu £4.5 biliwn oedd cyfanswm y costau, gyda chynnydd cylchol o dros £200 miliwn.