WQ86765 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2022

Yn dilyn yr ymateb i gwestiwn ysgrifenedig WQ86448 ynglŷn â chais i Weinyddiaeth Gyfiawnder y DU ynghylch daduno data i Gymru. a wnaiff y Gweinidog rhoi amserlen o ran pryd y mae Llywodraeth Cymru am gwblhau'r gwaith ac anfon y cais i'r DU?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 28/11/2022

Mae fy swyddogion yn parhau i ddadansoddi’n systematig ein hanghenion data. Rwy’n disgwyl i’r dadansoddiad hwnnw fod yn barod i’w rannu â Llywodraeth y DU erbyn mis Ionawr 2023. O ystyried cymhlethdod y maes hwn, rhestr gychwynnol o’n hanghenion fydd hwn. Bydd angen inni fireinio a gwella’r rhestr gyda phartneriaid fel rhan o’n taith gyffredinol tuag at ddata dadgyfunedig gwell.