WQ86733 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2022

Sawl lleoliad ar ystâd y Senedd wnaeth werthu pabïau ar gyfer y Lleng Brydeinig Frenhinol yn yr wythnosau cyn 11 Tachwedd 2022?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 30/11/2022

Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:

Gwerthwyd pabïau ar gyfer y Lleng Brydeinig Frenhinol yn ffreutur Tŷ Hywel yn ystod yr wythnos cyn 11 Tachwedd 2022.

Gwybodaeth ychwanegol:  Bydd pobl yn codi arian yn yr adeilad o bryd i’w gilydd at achosion da.  Mae hyn yn cael ei ganiatáu yn unol â'n Polisi, gan fod y gweithgareddau hyn yn cael eu trefnu, eu cydlynu a'u cyflawni gan ddefnyddwyr mewnol yr adeilad yn unig. Nid oes dim cyfarwyddyd na phresenoldeb gan fudiadau allanol, ac nid yw’r Senedd yn cymeradwyo unrhyw elusen benodol.