WQ86729 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2022

Pa asesiad sydd wedi ei wneud o ran gwerth economaidd yr Eisteddfod Genedlaethol i economi Cymru?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 28/11/2022

Mae’r Eisteddfod yn cynnal asesiad o effaith economaidd yr ŵyl o dro i dro, a’r rhain yn canolbwyntio ar y budd a ddaw i ardal yn ystod wythnos yr Eisteddfod.  Mae’r adroddiad diwethaf, a gyhoeddwyd adeg yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2018 yn dangos budd economaidd o £17.5 miliwn i’r ardal yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn unig. 

Dim ond rhan o’r stori yw hyn, gan fod cannoedd lawer o weithgareddau lleol yn cael eu trefnu fel prosiect cymunedol cyn ac ar ôl yr Eisteddfod a bydd hyn hefyd yn cael effaith economaidd bositif ar yr ardal sy’n ei chroesawu hi.