Pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol o ran sicrhau dyfodol yr wyl yng nghyd-destun effaith Brexit a chwyddiant ar gostau cynnal yr Eisteddfod?
Rydyn ni mewn cyswllt rheolaidd â’r Eisteddfod Genedlaethol i drafod sicrwydd hirdymor yr Eisteddfod. Maent wedi wynebu heriau sylweddol wrth fynd ati i ail adeiladu’r ŵyl yn sgil y pandemig, yn ogystal â wynebu cynnydd sylweddol yng nghostau cynnal yr Ŵyl.
Yn 2021, rhoddwyd cyllid ychwanegol o £200K i’r Eisteddfod Genedlaethol (o’r Gronfa Ymateb i COVID-19) i gefnogi swyddogaethau penodol ar gyfer paratoi at eisteddfodau Ceredigion a Llŷn ac Eifionydd yn 2022 a 2023, ynghyd â chyllid ychwanegol o £600k i gyfrannu at y cynnydd sylweddol yn y costau ar gyfer llwyfannu’r Ŵyl.
Dyrannwyd grant cyfalaf o £800k (£640k yn 2021-22 a £160k yn 2022-23) er mwyn sicrhau bod yr Eisteddfod yn gallu prynu stondinau - gan nad oedd modd eu llogi gan gyflenwyr ar gyfer Eisteddfod Ceredigion. Bydd y buddsoddiad hwn yn golygu y gall yr Eisteddfod arbed oddeutu £200k y flwyddyn ac felly yn fodd ychwanegol i’w cynorthwyo i adfer eu strwythurau a’u gwasanaethau.
Rydyn ni hefyd wedi rhoi cynydd yng ngrant craidd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni o £300k er mwyn sicrhau bod gan yr Eisteddfod yr adnoddau angenrheidiol i lwyfannu Eisteddfodau’r dyfodol a hynny mewn cyfnod sy’n parhau i fod yn ansicr ac yn anodd.