WQ86719 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2022

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar gynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag argymeillion Comisiwn Thomas sy'n ymwneud â materion datgonoledig?

Wedi'i ateb gan Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad | Wedi'i ateb ar 22/11/2022

Mae ‘Sicrhau Cyfiawnder i Gymru’, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022, yn nodi’r hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru yn awr i helpu i sicrhau cyfiawnder o dan y trefniadau presennol. Mae hyn yn cynnwys diweddariad ar ein cynnydd mewn perthynas ag argymhellion Comisiwn Thomas sydd o fewn ein rheolaeth. Rydym wedi ymrwymo i adrodd yn flynyddol ar gynnydd a wneir ar y rhaglen waith.