WQ86715 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2022

Pam na wnaeth unrhyw Weinidog o Lywodraeth Cymru fynychu COP27?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 22/11/2022

Gan fod y risgiau diogelwch wedi dwysau, nid oedd modd i Weinidogion Cymru fod yn bresennol a pharhau â busnes Gweinidogol tra oeddent yn COP27. Mae Gweinidogion yn parhau i gyflawni ein rhwymedigaethau hinsawdd, ond rydym hefyd yn cyflawni yn unol â’r argyfwng costau byw. O ganlyniad, eleni, cafodd Cymru ei chynrychioli gan swyddogion a rhanddeiliaid ehangach Cymru. Roedd y rhanddeiliaid hyn yn cynnwys NFU Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, a Phrifysgol Abertawe. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i weithio yn rhyngwladol ar newid hinsawdd drwy bartneriaethau fel Under2Coalition a'r Gynghrair Tu Hwnt i Olew a Nwy.

Yn wahanol i COP26, roedd ffocws COP27 ar weithredu penderfyniadau blaenorol yn hytrach na gwneud penderfyniadau newydd. Byddaf yn mynychu'r COP15 bioamrywiaeth ddiwedd eleni yng Nghanada. Bydd penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud yn COP15 ac felly, bydd yn fwy effeithiol i gael presenoldeb Gweinidogol yno. Bydd cyfle i mi siarad â chenhedloedd eraill ar bwysigrwydd mynd i'r afael â'r argyfwng natur, sy'n fygythiad yr un mor fawr i ansawdd ein bywyd ar y ddaear â newid hinsawdd. Bydd COP15 yn rhoi'r cyfle i bob gwlad ymgynnull a chytuno ar Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang ôl-2020 newydd.

Byddaf yn gallu tynnu sylw at ein gwaith o gyrraedd y targed 30x30 a ddisgrifir yn y Fframwaith drafft - i ddiogelu a rheoli o leiaf 30% o'n tir, dŵr croyw a'r môr yn effeithiol er lles natur erbyn 2030.

Yn ogystal, mae COP15 yn cyd-fynd â Chymru yng Nghanada 2022, ymgyrch blwyddyn o hyd i ddathlu'r cysylltiadau cynyddol rhwng Cymru a Chanada – a fydd yn codi proffil Cymru ar draws yr Iwerydd, dysgu ac ymgysylltu â Chanada a chreu cyfleoedd newydd i ni gydweithio.