Beth yw'r mesurau bydd Llywodraeth Cymru yn edrych arnant i fesur y buddsoddiad yn gysylltiedig gyda Tim Dynion Cymru yn cystadlu yn nhwrnament Cwpan y Byd?
Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi | Wedi'i ateb ar 23/11/2022
Rydym yn cynnal gwerthusiad llawn o’n gweithgareddau sydd ynghlwm wrth Gwpan y Byd. Bydd y mesurau’n cynnwys metrics marchnata penodol ar gyfer gweithgarwch marchnata sy’n ymwneud â meysydd penodol hy o fusnes i dwristiaeth a chodi ymwybyddiaeth yn gyffredinol o’r wlad. Mae gwaith monitro wedi’i deilwra hefyd yn cael ei gynnal ynghylch Cronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd.