WQ86676 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2022

Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd er mwyn sirhau bod cleifion o Ddwyfor Meirionnydd sy'n gorfod derbyn triniaeth mewn canolfannau pell i ffwrdd yn cael apwyntiad ar amser o'r dydd sy'n addas o ystyried y pelleter y mae'n rhaid iddynt deithio?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 17/11/2022

Fel rhan o’r broses apwyntiadau, rydym yn disgwyl i bob apwyntiad gael ei gytuno ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd a’r claf, gan ystyried unrhyw drefniadau y mae angen i’r claf eu gwneud i fynd i’w apwyntiad. Byddai hyn yn cynnwys ystyried trefniadau teithio.