WQ86545 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2022

Pa gamau mae'r Llywodraeth yn cymryd i gwtogi'r rhestr aros ar gyfer asesiadau anghenion dysgu ychwanegol gan fyrddau iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 15/11/2022

Er y gallai fod o gymorth, nid oes angen diagnosis meddygol i gael cymorth darpariaeth ddysgu ychwanegol. Mae’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn creu fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi dysgwyr rhwng 0-25 oed ag ADY, ac yn cryfhau'r hawl i gynllun datblygu unigol statudol ar gyfer pob dysgwr ag ADY. Bydd y cynlluniau datblygu unigol newydd yn sicrhau bod modd nodi anghenion yn gynnar drwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Ac yn sgil hynny gellir rhoi cefnogaeth a monitro effeithiol ar waith, ac addasu ymyriadau i sicrhau eu bod yn cyflawni’r hyn sydd ei angen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i becyn buddsoddi gwerth £20 miliwn ar gyfer rhaglen trawsnewid ADY. Rydyn ni’n cydweithio'n agos â darparwyr, rhieni, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill i gefnogi ein gwaith o fonitro’r broses o weithredu’r system newydd.

Rydyn ni’n ymwybodol o'r galw cynyddol a'r amseroedd aros hir ar gyfer asesiadau a chael diagnosis o'r holl gyflyrau niwroddatblygiadol. Bwriad y system ADY newydd yw sicrhau bod mwy o gydweithio rhwng Addysg, Iechyd, a Gwasanaethau Cymdeithasol fel bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu trin yn briodol. Fe wnaethon ni gomisiynu adolygiad annibynnol o’r galw a’r capasiti (adroddiad cryno) sydd wedi cadarnhau bod angen mynediad cyflymach at gefnogaeth ac at asesiad arbenigol. Mae'r Dirprwy Weinidog Julie Morgan wedi cyhoeddi camau y byddwn ni'n eu cymryd er mwyn gwella amseroedd aros, gwasanaethau a chymorth i deuluoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £12m i gefnogi rhaglen wella genedlaethol newydd ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol ar ben £11.5m sydd eisoes wedi ei fuddsoddi. Mae dolen i ddatganiad y Dirprwy Weinidog ar gael yma.