WQ86543 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2022

A wnaiff y Gweinidog rhoi diweddariad ar y gwaith sy'n mynd ymlaen i wella darpariaeth gofal iechyd i fenywod a merched?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 15/11/2022

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais y Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod a Merched. Y datganiad ansawdd yw'r cam cyntaf pwysig yn ein cynlluniau i drawsnewid y gofal a geir gan fenywod yng Nghymru. Mae'n nodi'r hyn y disgwylir i'r GIG ei gyflawni er mwyn sicrhau gwasanaethau iechyd o ansawdd da i gefnogi menywod a merched drwy gydol eu bywydau. Ers mis Gorffennaf, mae Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru wedi arwain y gwaith o ddatblygu Cynllun Iechyd Menywod. Y GIG fydd yn berchen ar y Cynllun, a fydd yn gweithredu fel ymateb y Gwasanaeth i'r gofynion a nodir yn y Datganiad Ansawdd.

Er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r Cynllun, lansiwyd arolwg o iechyd menywod gan Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru, ar 5 Awst. Cafwyd mwy na 4,000 o ymatebion unigol i'r arolwg hwn gan fenywod a merched rhwng 16 a 85 oed a throsodd. Mae'r ymatebion wedi cynnig cyfoeth o fanylion gwerthfawr am y materion a'r pryderon sy'n effeithio ar fenywod a merched a'u hiechyd yng Nghymru. At hynny, mae mwy na 1,000 o bobl o bob cwr o Gymru wedi mynegi eu diddordeb mewn cymryd rhan yn un o'r grwpiau ffocws a gynhelir yr wythnos hon.

Mae'r gweithgarwch hwn yn dangos ymrwymiad clir i sicrhau mai lleisiau menywod a merched Cymru sydd wrth wraidd y Cynllun Iechyd Menywod. Rwy’n disgwyl i'r cam cyntaf yn y Cynllun Iechyd Menywod gael ei gyhoeddi'r hydref hwn.