Pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i rhoi i'w opsiynau ar gyfer adeilad Tŷ Hywel pan fydd y brydles yn dod i ben ar yr adeilad?
Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Daw prydles Tŷ Hywel i ben yn 2032. Mae'r brydles yn cynnwys hawl awtomatig i adnewyddu am 25 mlynedd arall pan ddaw i ben.
Mae'r Comisiwn wedi sefydlu rhaglen Ffyrdd o Weithio. Mae hyn yn cynnwys prosiect i ystyried ein hanghenion o ran adeiladau yn y tymor canolig i’r tymor hir ym Mae Caerdydd, gan gynnwys opsiynau ar gyfer adnewyddu prydles Tŷ Hywel.
I gefnogi’r prosiect hwn, mae’r Comisiwn wedi cyflogi ymgynghorwyr eiddo proffesiynol i ddarparu cyngor technegol annibynnol ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer prydles Tŷ Hywel.
Fe wnaeth y Comisiwn hefyd ystyried papurau ychwanegol ym mis Mai a mis Mehefin 2022 mewn perthynas ag opsiynau strategol ehangach a materion ar gyfer ei anghenion o ran adeiladau a’r ystâd er mwyn llywio datblygiad y cyngor arbenigol hwn.
Mae’r Comisiwn yn disgwyl cael cyngor cychwynnol manwl gan ei ymgynghorwyr eiddo yn ystod 2023 er mwyn gallu ystyried ymhellach yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer ei ofynion am swyddfeydd ym Mae Caerdydd o 2032 ymlaen, a hynny i gefnogi anghenion a busnes y Senedd a’r Aelodau.