WQ86346 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2022

Pa gymorth y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig i elusennau lleol, megis amgueddfeydd, capeli ayyb er mwyn iddynt ymdopi a'r costau ynni cynyddol?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 24/10/2022

Mae fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r sector i fonitro effeithiau gwarant prisiau ynni chwe mis Llywodraeth y DU ar elusennau a sefydliadau eraill yn y sector gwirfoddol.

Mae ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn cynnig grant o dan £25,000 sy’n cael ei ddefnyddio gan lawer o ymgeiswyr i osod gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn eu hadeiladau, megis systemau gwresogi a golau newydd neu ffenestri newydd. Mae ymgeiswyr hefyd yn gwneud ceisiadau am gyllid ar gyfer technoleg newydd, megis paneli solar i leihau costau ynni a gwella cynaliadwyedd yn y tymor hir.