A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o bobl unigol a faint o deuluoedd oedd ar y rhestr aros am dai cymdeithasol, cyngor a pherchnogaeth gyhoeddus yng Nghymru ym mis Medi 2018, 2019, 2020, 2021 a 2022?
Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 28/10/2022
Nid yw data ar restrau aros ar gyfer tai cymdeithasol, tai cyngor a thai dan berchnogaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cael ei gasglu gan Lywodraeth Cymru.