A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o bobl (yn unigolion, yn deuluoedd ac yn blant) oedd wedi cael eu rhoi mewn llety dros dro ym misoedd Chwefror ac Awst 2018, 2019, 2020, 2021, 2022?
Gwnaethom ddechrau casglu gwybodaeth reoli fisol am unigolion sydd mewn llety dros dro yn ystod pandemig COVID-19 ym mis Awst 2020, gyda gwybodaeth am niferoedd o blant dibynnol yn dechrau cael ei chasglu o fis Hydref 2020. Nid ydym yn casglu’r data hwn ar gyfer teuluoedd.
Yn Awst 2020 rhoddwyd 976 o unigolion mewn llety dros dro, ac yn Awst 2021 rhoddwyd 1,183 o unigolion mewn llety dros dro, ac roedd 252 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed. Nid yw data ar gyfer 2022 ar gael eto.
Yn Chwefror 2021, rhoddwyd 1,034 o unigolion (168 ohonynt yn blant dibynnol) mewn llety dros dro. Yn Chwefror 2022 rhoddwyd 1,262 o unigolion mewn llety dros dro, ac roedd 303 o’r rhain yn blant o dan 16 oed.