A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o bres a wariodd awdurdodau lleol Cymru ar gartrefi unigolion a theuluoedd mewn llety dros dro yn y blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20, 2020-21, 2021-22?
Mae Awdurdodau Lleol yn ariannu eu darpariaeth ddigartrefedd statudol eu hunain, gan gynnwys llety dros dro, drwy eu hadnoddau eu hunain, gan gynnwys y dreth gyngor a chymorth gan Lywodraeth Cymru drwy’r setliad llywodraeth leol blynyddol heb ei neilltuo a grantiau penodol.
Yn 2020-21 a 2021-22 rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol ar ben y Grant Cynnal Refeniw, ar gyfer y costau ychwanegol sy’n gysylltiedig a’r egwyddor ‘neb yn cael ei golli’. Cafodd hwn ei ddarparu drwy’r Gronfa Galedi COVID, ac roedd yn cynnwys nifer o ffrydiau cyllid ar gyfer costau uwch yr awdurdodau lleol eu hunain ac ar gyfer rhaglenni roeddent yn eu gweinyddu ar ran Llywodraeth Cymru.
O dan y gronfa hon, roedd awdurdodau’n gallu hawliau’r costau ychwanegol i ddiogelu pobl yn ystod y pandemig. Roedd hyn yn cynnwys llety dros dro, cymorth cofleidiol, diogelwch, bwyd a chostau staffio a chymorth eraill. Am fod hawliau’n cael eu gwneud o dan gategorïau penodol, nid yw’n bosibl nodi’r costau penodol ar gyfer llety dros dro o fewn y gwariant ar ddigartrefedd.
Mae cyfanswm y costau a hawliwyd o dan y categori digartrefedd fel a ganlyn:
2020-21: £29,688,709
2021-22: £41,463,999