Ydy'r cyfyngiadau cyflymder 20mya yn berthnasol i bentrefi a threfi sydd ar gefnffyrdd?
Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 30/09/2022
Nid yw’r newid i'r terfyn cyflymder diofyn y cytunwyd arno gan y Senedd ar ffyrdd sydd dan gyfyngiadau yn newid cyffredinol.
Bydd y newidiadau i derfyn o 20mya yn berthnasol i derfynau cyflymder o 30mya sydd eisoes yn eu lle ar gefnffyrdd. Aed ati ar y cyd i ddatblygu canllawiau ar eithriadau, gan alluogi’r awdurdodau priffyrdd i gadw terfynau cyflymder o 30mya pan fo hynny'n briodol. Bydd y canllawiau hynny’n cael eu cyhoeddi cyn bo hir.