Pa gamau mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd i sicrhau hyfforddiant gorfodol ynghylch hyfforddiant cydraddoldeb anableddau i yrrwyr tacsis a mini-cabs?
Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 29/09/2022
Fel rhan o'n Rhaglen Lywodraethu byddwn yn cyhoeddi Papur Gwyn yn amlinellu ein cynigion i foderneiddio'r sector tacsis yng Nghymru maes o law. Bydd hyn yn gyfle i sefydlu safonau cenedlaethol ar gyfer hyfforddi gyrwyr a gweithredwyr, yn unol â'n gweledigaeth ar gyfer y sector tacsis a cherbydau hurio preifat yn Llwybr Newydd: Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021.