WQ86013 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/08/2022

Pam bod yr amser i gofrestru apêl gyda Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru wedi cael ei ymestyn i 16 wythnos a beth yw’r cynllun i ostwng yr amser?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 05/09/2022

Mae pwysau sylweddol ar Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru o ran adnoddau. Mae cynllun strategol ar waith ar gyfer 2022-23 sy'n cynnwys nifer o gamau i leihau'r llwyth o apeliadau newydd sy'n aros i gael eu dilysu a'u dechrau.