WQ85858 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/08/2022

A wnaiff y Comisiwn gadarnhau faint o argraffwyr sy'n cael eu darparu ar ystâd y Senedd i'w defnyddio'n ecsgliwsif gan Lywodraeth Cymru a phwy fydd yn talu'r costau argraffu unwaith y bydd taliadau'n cael eu cyflwyno ar gyfer argraffwyr at ddefnydd cyffredin ar 12 Medi 2022?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 11/08/2021

Nid yw'r Comisiwn yn darparu unrhyw argraffwyr i'w defnyddio gan Lywodraeth Cymru yn ei swyddfeydd yn Nhŷ Hywel. Mae gan Aelodau o’r Senedd argraffwyr yn eu swyddfeydd yn y Senedd i gefnogi eu gweithgarwch yn y Senedd. Yn ogystal, mae’r Comisiwn yn darparu argraffwyr a rennir at ddefnydd Aelodau o’r Senedd a staff y Comisiwn. Mae’r dyfeisiau hyn wedi’u lleoli ym mannau cyffredin y Comisiwn yn Nhŷ Hywel, a dim ond drwy ddefnyddio Cerdyn Diogelwch dilys sy’n gysylltiedig â chyfrif TGCh yr unigolyn yn y Senedd y gellir cael mynediad atynt.