WQ85848 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/07/2022

Beth sy'n achosi prinder o feddyginiaethau megis remifentanil ar hyn o bryd a pha gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio goresgyn y broblem?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 05/08/2022

Mae’r cyflenwadau o holl gryfderau a phob cyflwyniad o bigiad remifentanil yn gyfyngedig ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau gweithgynhyrchu, ac ni fydd cynhyrchwyr yn gallu diwallu holl alw’r DU am beth amser.

Ymgynghorwyd ag arbenigwyr clinigol, gan gynnwys Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion, ac maent wedi cynghori y dylai’r stoc bresennol o remifentanil gael ei chadw i'w defnyddio ar gyfer arwyddion a flaenoriaethir, nes bod cyflenwadau llawn ar gael eto.

Hyd nes y bydd y sefyllfa o ran cyflenwadau yn gwella, gellir defnyddio opioidau amgen gan gynnwys alfentanil a fentanyl. Mae'r rhain ar gael ac mae cynhyrchwyr wedi cadarnhau y gallant ddiwallu’r cynnydd disgwyliedig yn y galw.