WQ85847 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/07/2022

Ymhellach i gwestiwn WQ85665, a wnaiff y Gweinidog roi eglurhad pellach ynghylch sut mae prosiect yn ninas Caerdydd yn gallu cael ei gymeradwyo ar gyfer arian o gronfa wledig o ystyried taw ardal drefol yw Caerdydd?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd | Wedi'i ateb ar 04/08/2022

Mae Cymru yn wlad fach gyda chymysgedd o wahanol fathau a defnydd o dir – gwledig a threfol – i’w canfod yn ein holl ardaloedd daearyddol a gweinyddol. Ar gyfer Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, cafodd ‘gwledig’ ei ddiffinio gan Lywodraeth Cymru fel yr ardal a gwmpesir gan holl awdurdodau lleol Cymru. Mae'r cwmpas daearyddol hwn yn cynnwys ardaloedd trefol yng Nghaerdydd.