Yn dilyn sylwadau yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Nhŷ'r Cyffredin ar 23 Mehefin 2022 yn awgrymu mai'r diffiniad o 'tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas' ydy 3b ac uwch, a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i newid y diffiniad hefyd?
Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 05/08/2022
Tir amaethyddol o raddau 1, 2 a 3a yn system y Dosbarthiad Tir Amaethyddol (ALC) yw’r tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas, a dylid ei warchod fel adnodd y mae terfyn iddo ar gyfer y dyfodol. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn datgan y dylid rhoi cryn bwys ar ddiogelu tir o’r fath rhag ei ddatblygu, oherwydd ei bwysigrwydd arbennig. Nid oes dim cynigion i newid y graddau a geir yn y categori hwn.