Pa 25 o ysgolion cynradd Gymraeg fydd yn cael eu ehangu dros y 10 mlynedd nesaf o dan y cynlluniau strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn addysg?
Mae ymrwymiadau yn y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) drafft i ehangu llefydd mewn ysgolion sy’n bodoli’n barod yn y siroedd canlynol: Mynwy, Powys, Dinbych, Casnewydd, Wrecsam, Blaenau Gwent, Caerdydd, Merthyr, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Penfro, Gwynedd a Fflint.
Nid yw’n bosib enwi ysgolion gan fod ehangu neu leihau llefydd mewn ysgolion yn dod o dan drefniadau statudol sy’n eistedd y tu allan i fframwaith y CSCA. Lle mae’r broses hynny wedi dod i derfyn, neu os yw’r wybodaeth yn y pair cyhoeddus, manylir ar hynny yn y CSCA.
Mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn y broses o gael eu cymeradwyo, gyda’r gwaith hynny yn dod i derfyn erbyn diwedd Gorffennaf.
Dylai’r awdurdod lleol fynd ati wedi hynny i gyhoeddi a gweithredu’r Cynllun yn unol â gofynion. Rheoliadau cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg (Cymru) 2019. Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun ar, neu cyn, y dyddiad mae’r cynllun yn dod yn weithredol, sef Medi 1af 2022. Yn y cyd-destun hwn golyga cyhoeddi:
- ei roi ar wefan yr awdurdod lleol, a
- sicrhau bod copïau o’r cynllun ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt yn –
- swyddfeydd yr awdurdod lleol, a
- unrhyw le arall y mae’n ei ystyried yn briodol