Ble yng Nghymru fydd y 23 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd dros y 10 mlynedd nesaf o dan y cynlluniau strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn addysg?
Mae ymrwymiadau yn y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg drafft i agor ysgolion newydd yn siroedd Fflint, Powys, Penfro, CNPT, Pen-y-bont or Ogwr, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Merthyr, Caerdydd, Caerffili, Mynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen dros gyfnod gweithredu y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
Yn atodol i’r gwaith hyn, mae’n bwysig hefyd cofio am y siroedd sydd yn symud eu hysgolion ar hyd gontinwwm ieithyddol gyda’r bwriad o newid eu categori Iaith i gategori cyfrwng Cymraeg. Mae hynny i’w gweld yn siroedd Dinbych, Gwynedd, Conwy, Powys, Ceredigion, Penfro, Sir Gar a Wrecsam. Gyda siroedd Caerdydd, Casnewydd, Blaenau Gwent, Mynwy ac eraill yn rhoi sylw i drefniadau newydd ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl cyfrwng y ddarpariaeth a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2021 fel dull i gyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd newydd.
Mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn y broses o gael eu cymeradwyo, gyda’r gwaith hynny yn dod i derfyn erbyn diwedd Gorffennaf.
Dylai’r awdurdod lleol fynd ati wedi hynny i gyhoeddi a gweithredu’r Cynllun yn unol â gofynion. Rheoliadau cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg (Cymru) 2019. Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun ar neu cyn y dyddiad mae’r cynllun yn dod yn weithredol, sef Medi 1af 2022. Yn y cyd-destun hwn golyga cyhoeddi:
- ei roi ar wefan yr awdurdod lleol, a
- sicrhau bod copïau o’r cynllun ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt yn –
- swyddfeydd yr awdurdod lleol, a
- unrhyw le arall y mae’n ei ystyried yn briodol.