WQ85665 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/07/2022

A wnaiff y Gweinidog ddarparu mwy o wybodaeth am y Down to Earth Project yn derbyn £895,000 gan y Gronfa Ddatblygu Gwledig ar gyfer y gwaith maent yn ei wneud ar y Dolydd / Felindre a Llandochau?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd | Wedi'i ateb ar 20/07/2022

Cafodd y prosiect ‘Seilwaith Ysbytai Gwyrdd y Dyfodol ac Iechyd Awyr Agored’ a gyflawnwyd gan Down to Earth, arian grant o dan y Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles fel rhan o Raglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020.

Wrth weithio mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Canolfan Canser Felindre, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, nod y prosiect yw dangos y potensial o drawsnewid campysau ysbytai cyfan i fod yn arddangoswyr seilwaith gwyrdd cynaliadwy drwy ddatrysiadau sy’n seiliedig ar natur. 

Mae’r prosiect yn gweithio ar ddau gynllun mawr:

  • Dylunio canolfan canser Felindre newydd, sy’n ymgorffori dulliau adeiladu naturiol a chynaliadwy, gwella lles cleifion, gwella bioamrywiaeth ac arddangos adeiladu carbon isel a naturiol ar raddfa seilwaith cenedlaethol. Mae’r prosiect yn cefnogi cyd-ddylunio’r ysbyty â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys cleifion, staff, a’r gymuned leol.
  • Dylunio a datblygu cyfleuster gofal iechyd awyr agored ac adsefydlu 7 erw yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae’r prosiect yn gweithio gyda chleifion, y staff a’r gymuned leol i gyd-ddylunio, adeiladu a defnyddio cyfleuster gofal iechyd awyr agored blaenllaw.

Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2023. Mae gwerthuswyr allanol wedi’u penodi i asesu’r agweddau gwahanol ar ganlyniadau’r prosiect a bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno cyn dyddiad cwblhau’r prosiect.