WQ85644 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/06/2022

Pa waith ymchwil sy’n cael ei wneud neu ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i enseffalomyelitis myalgig (ME)?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 12/07/2022

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r Grŵp Gweithredu ar Gyflyrau Niwrolegol i wella gwasanaethau i bawb sy’n byw gyda chyflyrau niwrolegol ledled Cymru, gan gynnwys pobl ag enseffalomyelitis myalgig (ME). Mae’r Grŵp Gweithredu wedi datblygu datganiad ansawdd drafft ar gyfer cyflyrau niwrolegol y bwriedir ei gyhoeddi yn chwarter 2 eleni.

Mae Datganiadau Ansawdd yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau clinigol ar gyfer tymor y Senedd. Maent yn ddogfennau pwysig a fydd yn llywio trosolwg cenedlaethol o waith cyflawni’r GIG drwy’r fframwaith cynllunio a’r system rheoli perfformiad. Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau, ac Awdurdodau Iechyd Arbennig ymateb i ddatganiadau ansawdd drwy eu prosesau cynllunio.

Er nad ydym ar hyn o bryd yn ariannu prosiectau ymchwil ME gweithredol drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ystod o gyfleoedd ariannu ymchwil sy’n agored ac ar gael i ymchwilwyr â diddordeb mewn ME.

Rydym hefyd yn cyfranogi mewn ystod o raglenni ariannu’r DU – megis y Rhaglen Asesu Technoleg Iechyd a’r Rhaglen Ymchwil Gwasanaethau a Chyflenwi Iechyd – sy’n cael eu cynnal gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) ac sydd, yn yr un modd, yn agored i ymchwilwyr o Gymru a gweddill y DU sydd â diddordeb mewn ME.