A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynlluniau i roi cymhorthdal i ffermwyr bridiau cynhenid?
Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd | Wedi'i ateb ar 07/07/2022
Mae ein bridiau cynhenid wedi addasu i ffynnu yn ein tirweddau a’n hinsawdd ac maent yn rhan bwysig o’n treftadaeth ddiwylliannol. Maent yn chwarae rhan allweddol o ran rheoli cynefinoedd a bioamrywiaeth.
Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig yn hyrwyddo a chefnogi bridiau cynhenid o dda byw a cheffylau gan sicrhau bod Cymru’n elwa i’r eithaf ar y manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sy’n deillio ohonynt.