Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i ddarparu mwy o gyfleoedd i gynhyrchwyr a busnesau o Gymru ddarparu bwyd a diod i'w gwerthu yn y Senedd a Thŷ Hywel?
Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Mae contract arlwyo'r Comisiwn yn nodi bod y Senedd yn dymuno gwella cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi i fusnesau bach a chanolig a chyflenwyr lleol a Chymreig, gan wneud y mwyaf o'r cynnyrch o Gymru a ddefnyddir wrth ddarparu'r gwasanaeth arlwyo. Caiff y defnydd o gynnyrch o Gymru ei fonitro a'i adrodd fel rhan o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol corfforaethol y Comisiwn ar gyfer defnyddio cyflenwyr o Gymru sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau i'r Senedd.
Mae'r contract arlwyo'n cael ei ail-dendro ar hyn o bryd. Bydd y contract newydd yn cynnwys Dangosyddion Perfformiad Allweddol i wneud y mwyaf o gyflenwyr o Gymru a chynyddu’r defnydd ohonynt o fewn y gwasanaeth. Bydd mentrau eraill ar gyfer y contract newydd yn cynnwys cyfleoedd i gyflenwyr o Gymru hyrwyddo eu gwasanaethau a'u cynnyrch yn y caffi cyhoeddus a bwyty’r staff gyda stondinau a deunyddiau hyrwyddo.
Yn ogystal â darparu bwyd a diod i'r Senedd, mae'r contract arlwyo yn gyfle i gynhyrchwyr a busnesau bwyd o Gymru gael eu defnyddio mewn siopau contractwyr eraill ledled y DU, gan ddarparu cyfleoedd marchnad a gwerthu ychwanegol i gyflenwyr.