WQ85597 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/06/2022

Pa gyfran o'r bwyd sy'n cael ei werthu yn y Senedd a Thŷ Hywel sy'n dod o gynhyrchwyr a busnesau o Gymru?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 05/07/2022

Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:

Ein data blynyddol diweddaraf ar gyfer cyfran y bwyd a werthir yn y Senedd a Thŷ Hywel gan gynhyrchwyr o Gymru ar gyfer 2021/22 yw 74%.

Mae'r Senedd wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o gynnyrch a chyflenwadau o Gymru a chynyddu’r defnydd o fewn y gwasanaeth arlwyo lle bo modd.  Caiff y defnydd o gyflenwadau o Gymru o fewn y gwasanaeth arlwyo ei fonitro ac mae'n rhan o'n Dangosyddion Perfformiad Allweddol corfforaethol cyffredinol ar gyfer cyflenwyr o Gymru a gyhoeddir yn ein Hadroddiad Blynyddol.