WQ85596 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/06/2022

Pa gymorth ariannol neu ymarferol sydd yna i ofalwyr di-dal/gwirfoddol?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 30/06/2022

Mae gan bob gofalwr di-dâl o unrhyw oedran hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan gynnwys yr hawl i gael asesiad o anghenion gofalwyr a bod unrhyw anghenion sy’n gymwys am gymorth yn cael eu diwallu, fel sydd gan berson sydd ag anghenion gofal a chymorth. Awdurdodau lleol sy’n darparu’r rhan fwyaf o gymorth ymarferol i ofalwyr di-dâl ac fe’u hanogir i gysylltu â'u hawdurdod lleol am wybodaeth, cyngor a chymorth.

Drwy ein rhaglenni a ariennir gan grant, mae Llywodraeth Cymru hefyd, mewn partneriaeth â'r trydydd sector a sefydliadau cenedlaethol i ofalwyr yng Nghymru, yn cefnogi darpariaeth cymorth ymarferol ac ariannol i ofalwyr di-dâl. Ers dechrau’r pandemig Covid, rydym wedi ariannu cynlluniau grant sy'n targedu'n benodol y rheini sy'n profi dirywiad yn eu llesiant meddyliol a chorfforol, ac sy’n ysgwyddo pwysau ariannol cynyddol. Roedd hyn yn cynnwys £10 miliwn o gyllid ychwanegol yn 2021-22.

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddais gyllid o £29 miliwn ar gyfer rhoi taliad cymorth ariannol o £500 i ofalwyr di-dâl a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022. Byddwn yn croesawu cefnogaeth yr Aelodau i godi ymwybyddiaeth o'r taliad hwn ac i annog etholwyr cymwys i gysylltu ynglŷn â’r taliad. Mae gan unigolion cymwys tan 15 Gorffennaf i hawlio'r taliad gan eu hawdurdod lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael yma: Cynllun cymorth ariannol i ofalwyr di-dâl | LLYW.CYMRU

Rwy’n awyddus iawn hefyd i ystyried ffyrdd newydd o gefnogi gofalwyr nad ydynt yn gymwys i gael y taliad o £500. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddais £4.5 miliwn i barhau â'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr. Ers ei lansio yn 2020, mae'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr wedi helpu dros 10,000 o ofalwyr di-dâl gyda grantiau a thalebau i dalu am eitemau sylfaenol. Bydd ceisiadau i’r Gronfa Cymorth i Ofalwyr yn agor yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn rheoli'r gronfa ar ein rhan a bydd ganddynt wybodaeth ar eu gwefan am sut i wneud cais i’r gronfa pan fydd yn agor. Nid yw cymhwystra ar gyfer gwneud cais i’r gronfa hon yn gysylltiedig â Lwfans Gofalwr nac unrhyw fudd-daliadau eraill.

Y llynedd, darparwyd £3m o gyllid gennym i awdurdodau lleol ar gyfer hybu’r cymorth seibiant a ddarperir ganddynt yn lleol i ofalwyr di-dâl. Gan adeiladu ar hyn, yn 2022-23, rydym yn buddsoddi £9 miliwn dros dair blynedd i sefydlu cynllun seibiannau byr arloesol i ofalwyr di-dâl. Nod y cynllun newydd fydd cynyddu’r seibiannau byr a gynigir i ofalwyr di-dâl o bob oed yng Nghymru, a sicrhau mwy o gysondeb o ran y seibiannau hynny. Nid yw cymhwystra yn gysylltiedig â Lwfans Gofalwr mewn unrhyw ffordd. Yn hytrach, bydd y cynllun newydd yn targedu gofalwyr di-dâl sydd ar incwm isel ac sy'n ei chael yn anodd ymdopi â'u rôl ofalu. Rydym yn y broses o benodi corff rheoli cenedlaethol y trydydd sector a fydd yn goruchwylio'r prosiect.

Mae ein cynllun Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn ariannu pedwar prosiect arloesol sy'n cynnig cymorth ymarferol i ofalwyr di-dâl. Maent yn cael eu harwain gan Age Cymru, Gofalwyr Cymru, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Fforwm Cymru Gyfan. Dyfarnwyd cyllid cyfunol o £2.6 miliwn i gefnogi'r prosiectau hyn dros y tair blynedd gyntaf (2020-2023). O ganlyniad i effaith y pandemig ar y prosiectau hyn, maent wedi eu hymestyn hyd at 2025.

Drwy'r cyllid hwn, mae Gofalwyr Cymru wedi gallu cynyddu’r amrywiaeth o wasanaethau cymorth i ofalwyr a gynigir ganddynt drwy eu prosiect Grymuso a Llesiant Gofalwyr. Mae'r rhain yn cynnwys Hwb Lles ar-lein, sesiynau cymorth llesiant a fideos cynghori ar-lein sydd ar gael drwy eu sianel Youtube, yn ogystal â Gwasanaeth Cymorth Gwrando. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan: https://www.carersuk.org/wales.

Yn y blynyddoedd a fu, rydym wedi dyfarnu cyfanswm o £1 miliwn i fyrddau iechyd lleol a'u partneriaethau gofalwyr. Yn 2022-23, mae'r pwyslais wrth ddefnyddio’r cyllid hwn, sydd bellach yn cael ei reoli gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, yn cael ei roi ar brosiectau a fydd yn helpu i ryddhau cleifion o'r ysbyty drwy gefnogi a chynnwys gofalwyr di-dâl yn y broses o ryddhau cleifion.

Gan ddilyn o’r Gronfa Gofal Integredig – a oedd yn ymdrin â gofalwyr di-dâl fel grŵp â blaenoriaeth am gymorth – mae'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd yn gronfa 5 mlynedd i gyflwyno rhaglen o newid o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2027. Disgwylir i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol sy'n darparu'r gronfa newydd fuddsoddi o leiaf 5% o’r buddsoddiad cyffredinol o’r gronfa hon mewn cymorth uniongyrchol i ofalwyr di-dâl.

Yn 2022-23, rydym yn darparu cyllid o £186,000 i roi cymorth mwy uniongyrchol i ofalwyr ifanc, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Mae'r cerdyn adnabod cenedlaethol i ofalwyr ifanc bellach ar gael ledled Cymru gyfan. Mae'r cynllun cerdyn gwirfoddol hwn yn fecanwaith allweddol i helpu gofalwyr ifanc i ddangos pwy ydyn nhw i weithwyr proffesiynol yn y meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, ac i gael mynediad at y cymorth sydd arnynt ei angen. At hynny, bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio gennym i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cydnabod mewn lleoliadau ehangach eraill hefyd.

Mae Gofalwyr Cymru hefyd wedi llunio nifer o ganllawiau defnyddiol sy'n edrych ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cymorth ariannol ac asesiadau o anghenion gofalwyr. Maent yn cynnig llinell gymorth ar 0808 808 7777 o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 6pm. Gallwch hefyd gysylltu â nhw drwy e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad advice@carersuk.org