WQ85542 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2022

Pa gyfran o'u cyllideb mae disgwyl i ffilmiau sy'n cael cyllid Cymru Greadigol drwy Ffilm Cymru wario ar dalent, criw, cyfleusterau a lleoliadau yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 28/06/2022

Am bob £1 o gyllid grant Cymru Greadigol a fuddsoddir, disgwylir i gynyrchiadau wario o leiaf £6 o’u cyllideb yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys talent, criw, cyfleusterau a lleoliadau.